Trydydd teitl i Ponty
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Mae Pontypridd wedi ennill y bencampwriaeth am y trydydd tro'n olynnol yn dilyn buddugoliaeth o 38-17 yn erbyn Cross Keys yn y rownd derfynol.
Roedd Ponty wedi mynd 13-0 ar y blaen diolch i gais Rhys Shellard cyn i Lewis Williams weld cerdyn melyn, ond methodd yr ymwelwyr â manteisio.
Daeth Williams yn ôl i'r cae a sgorio cais ei hun, ac fe groesodd Dan Godfrey a Jordan Sieniawski hefyd.
Nathan Trowbridge a James Ledbeater (2) sgoriodd i'r tîm o Went.
Dyma'r eildro y tymor hwn i Cross Keys golli mewn rownd derfynol i Bontypridd wedi iddyn nhw golli yn rownd derfynol Cwpan Swalec o 21-8.