Hammett yw cyfarwyddwr y Gleision
- Cyhoeddwyd

Mae rhanbarth rygbi'r Gleision wedi penodi cyn fachwr Seland Newydd Mark Hammett fel eu cyfarwyddwr rygbi newydd.
Mae'r Kiwi 41 oed, sydd ar hyn o bryd yn brif hyfforddwr yr Hurricanes, yn olyn Phil Davies a adawodd y swydd ym mis Mawrth.
Mae Hammett wedi arwyddo cytundeb tair blynedd, ac fe fydd yn ymuno â'r Gleision ar ddiwedd tymor y Super 15.
Dywedodd Prif Weithredwr y Gleision, Richard Holland: "Rydym yn credu y bydd gweledigaeth tymor hir Mark yn mynd â'r Gleision i'r lefel nesaf er mwyn gwireddu ein huchelgais.
"Fe wnaethon ni chwilio'n eang gyda chymorth Warren Gatland a Gareth Edwards, ac rydym wrth ein bodd y bydd Mark Hammett yn ymgymryd â'r gwaith."
Gorffennodd y Gleision yn 7fed yn y Pro12 y tymor hwn, gan olygu na fyddan nhw'n rhan o Gwpan Pencampwyr Rybi Ewrop y tymor nesaf.