Hook i ddychwelyd i'r Gweilch?
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gweilch wedi cadarnhau eu bod mewn trafodaethau i ail arwyddo James Hook.
Fe adawodd y cefnwr amryddawn - sydd wedi ennill 75 o gapiau i Gymru - Stadiwm Liberty am Perpignan yn 2011, ac fe arwyddodd estyniad pedair blynedd i'w gytundeb ym mis Medi'r llynedd.
Ond credir fod ganddo gymal yn ei gytundeb sy'n caniatáu iddo adael os fyddai'n clwb Ffrengig yn disgyn o'r brif adran, ac mae hynny wedi digwydd.
Er hynny fe ddywed y Gweilch y byddai unrhyw gytundeb gyda Hook yn dibynnu ar y rhanbarthau'n dod i gytundeb rygbi gydag Undeb Rygbi Cymru.
Mae'r cytundeb presennol rhwng yr Undeb a Regional Rugby Wales (RRW) sy'n cynrychioli'r pedwar rhanbarth yn dod i ben ar 30 Mehefin.
Mae'r ddwy ochr yn rhan o anghydfod am gyllido a rhyddhau chwaraewyr, ac fe fyddai cytundeb newydd yn cadarnhau beth yw cyllideb y rhanbarthau y tymor nesaf.
Mae'r Gweilch hefyd yn gobeithio dod i gytundeb newydd gyda phrop Cymru a'r Llewod, Adam Jones.
Dywedodd cyfarwyddwr y Gweilch, Robert Davies: "Allwn ni wneud dim tan bod cytundeb newydd.
"Fe fyddai'n wych i arwyddo James ac Adam, ac yn beth positif iawn i rygbi Cymru - cawn weld."
Mae ansicrwydd hefyd ym y Cymro arall yn rhengoedd Perpignan, y clo Luke Charteris.
Fe allai'r ddau Gymru aros gyda Perpignan er mwyn cynorthwyo'u hymdrech i ddychwelyd i'r Super14, ond mae enw Hook hefyd wedi ei gysylltu gyda Lyon ynghyd â Chaerloyw a Gwyddelod Llundain yn Uwchgynghrair Lloegr.