Holi'r cyhoedd am gynllun llosgydd
- Cyhoeddwyd

Fe fydd cynlluniau i godi llosgydd gwastraff ar Lannau Dyfrdwy yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.
Dywed y cwmni sy'n gyfrifol am gynllun Parc Adfer - Wheelabrator - y bydd y llosgydd yn prosesu hyd at 200,000 tunnell o wastraff y cartref bob blwyddyn gan greu digon o ynni ar gyfer 30,000 o gartrefi.
Ychwanegodd y cwmni o America y byddai tua 300 o swyddi'n cael eu creu yn ystod y gwaith adeiladu, a 35 o swyddi llawn amser pan fyddai ar agor.
Bydd yr ymgynghoriad yn para tan ddydd Gwener, Gorffennaf 11.
Cais cynllunio
Mae'r cynllun, sy'n cael ei adnabod fel Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, yn fenter ar y cyd rhwng cynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Dinbych a Fflint.
Ym mis Ebrill fe gafodd Wheelabrator ei ddewis fel y cwmni oedd yn cael ei ffafrio ar gyfer y cytundeb gwerth £800 miliwn dros 25 mlynedd.
Mae'r cwmni'n bwriadu cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y llosgydd ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ger Cei Connah yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Is-Gadeirydd y cwmni yn y DU, Gary Aguinaga: "Dyma ein cyfle cyntaf i siarad gyda phobl leol am y dechnoleg yr ydym yn bwriadu ei ddefnyddio, ac i egluro sut yr ydym yn bwriadu adeiladu a gweithredu'r adnodd mewn modd diogel a chyfrifol.
"Rydym am i bobl ofyn cwestiynau i ni, oherwydd mae hynny'n golygu y gallwn ni ateb rhai o'r pryderon sydd wedi cael eu mynegi ac fe allwn ddangos sut y bydd ein profiad a'n hymrwymiad wneud yr adnodd yma yn rhywbeth y gall Gogledd Cymru deimlo'n falch ohono."
Yn ystod yr ymgynghoriad, fe fydd chwech o arddangosfeydd yn cael eu cynnal ar hyd mis Mehefin ar safleoedd ar draws Glannau Dyfrdwy, Cei Connah a Queensferry.
Straeon perthnasol
- 14 Ebrill 2014