Ymgyrch Pallial: Cyhuddo dyn

  • Cyhoeddwyd
NCAFfynhonnell y llun, PA

Mae dyn 62 oed o Wrecsam wedi cael ei gyhuddo o ddau achos o ymosodiad anweddus yn dilyn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol.

Bydd Richard Dafydd Vevar yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus yn erbyn bachgen rhwng 13 ac 16 oed.

Honnir i'r troseddau ddigwydd rhwng 1986 a 1989.

Fe ddaw'r cyhuddiadau fel rhan o ymgyrch Pallial sy'n ymchwilio i achosion hanesyddol o gam-drin mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru.

Fe gafodd Mr Vevar ei rhyddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Dolgellau ar 2 Mehefin.