Pobl ifanc yr Urdd yn galw am heddwch
- Cyhoeddwyd

Mae 24 o bobl ifanc Meirionnydd wedi bod wrthi'n perfformio Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd.
Thema'r neges eleni yw rhyfel a chymodi.
Bu'r disgyblion o Ysgolion Uwchradd y Berwyn, Ardudwy, Tywyn, Moelwyn a'r Gader yn cydweithio gyda Chymdeithas y Cymod ar y neges, sydd yn gofyn i arweinwyr y byd gymodi â'i gilydd a dilyn ffordd heddwch.
Y Prifardd Mererid Hopwood fu'n cynnig arweiniad o ran ysgrifennu'r neges ac am y tro cyntaf eleni mae cerdd wedi ei chreu i gyd-fynd â'r neges.
'Gwir ystyr rhyfel'
Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn cael ei chyhoeddi yn flynyddol ar Ddydd Ewyllys Da, 18 Mai, dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hâg yn 1899.
Eleni mae wedi ei chyfieithu i 16 iaith, yn cynnwys Ffrangeg, Arabeg a Tagalog.
Mae Mirain Rhys a Heledd Davies o Ysgol y Berwyn yn ddwy o'r bobl ifanc sydd wedi ysgrifennu a pherfformio y neges eleni.
Dywedodd Mirain: "Mi wnaethom ni gwrdd am y tro cyntaf am ddeuddydd 'nôl ym mis Hydref yng Nglan-llyn.
"Yn ystod y deuddydd cawsom glywed am waith Cymdeithas y Cymod a hanes y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd a buom yn edrych ar gerddi Hedd Wyn.
"Cawsom hefyd edrych ar luniau o'r rhyfel i'n ysgogi a gwneud i ni feddwl am wir ystyr rhyfel."
'Cyfleu'r golled'
Jane Harries o Gymdeithas y Cymod a Mererid Hopwood fu'n cydweithio a chynnig ysbrydoliaeth i'r bobl ifanc ar gyfer ysgrifennu'r neges.
Dywedodd Ms Harries: "Mi oedd gennym ni griw gwych o bobl ifanc i weithio gyda nhw ym Meirionnydd.
"Beth oeddwn i yn ceisio ei wneud yn fy sesiwn i oedd dangos gwir effaith rhyfel gan ddangos faint o bobl gyffredin yn ogystal â milwyr a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf - rhyfel oedd fod i orffen pob rhyfel - yr amodau yn y ffosydd, a cheisio cyfleu'r golled enfawr i deuluoedd y milwyr yn ogystal â'r bobl gyffredin.
"A'r ffaith syml amdani ydy fod rhyfeloedd yn parhau ac nad ydym eto wedi dod o hyd i ffordd o ddatrys problemau yn heddychlon."
Dywedodd Dylan Elis, Swyddog Datblygu Meirionnydd fu'n cydlynu'r Neges ar ran yr Urdd: "Mae Jane a Mererid wedi gwneud gwaith gwych yn ysbrydoli'r bobl ifanc gan greu neges a cherdd rymus iawn.
"Mae hi wrth gwrs yn 100 mlynedd eleni ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, a'r neges yn cael ei pherfformio yn yr Ysgwrn, cartref Bardd y Gadair Ddu, Hedd Wyn, a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Perfformiad syml fydd yna eleni, fel bod yn neges yn cael y lle blaenllaw.
"Ond mi fydd ychydig o luniau a cherddoriaeth o'r cyfnod yn cael eu defnyddio er mwyn cyfleu naws."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2013
- Cyhoeddwyd18 Mai 2012