Agor cwest i farwolaeth morwyr llong y Swanland
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth chwe morwr o Rwsia fu farw pan suddodd eu llong oddi ar arfordir Cymru yn 2011.
Bu farw'r Prif Swyddog Leonid Safonov, 50, y peiriannydd Mikhail Starchevoy, 60, y cogydd Oleg Andriets, 49, y peiriannydd Gennadiy Meshkov, 52, y meistr Yury Shmelev, 44, a'r badfeistr Sergey Kharchenko, 51 pan suddodd llong y Swanland oddi ar arfordir Pen Llŷn.
Cafodd dau o'r criw, Roman Savin, 27, a Vitaly Karpenko, 48, eu hachub gan hofrennydd yr Awyrlu.
Roedd y llong yn cario llwyth o 2,730 tunnell o wenithfaen o Landdulas ger Bae Colwyn i Cowes ar Ynys Wyth pan aeth i drafferthion.
Cafodd y llong ei darganfod milltir oddi ar yr arfordir, 80 metr o dan wyneb y môr.
Ddydd Llun, clywodd y rheithgor mai corff Mr Safonov oedd yr unig un gafodd ei ddarganfod. Dangosodd post mortem ei fod wedi boddi.
Dywedodd y crwner, Dewi Pritchard Jones y byddai'n gofyn i weddill y rheithgor ddyfarnu os wnaeth y dynion eraill farw yn yr un ffordd.
Mae disgwyl i'r gwrandawiad bara am dri diwrnod.