Gill: 'Ymosodiad' y wasg ar UKIP

  • Cyhoeddwyd
Nathan Gill
Disgrifiad o’r llun,
Mae Nathan Gill wedi amddiffyn sylwadau arweinydd UKIP, Nigel Farage

Mae prif ymgeisydd Ewropeaidd UKIP yng Nghymru wedi honni bod y wasg yn ymosod ar y blaid, wrth iddo amddiffyn sylwadau ei arweinydd am fewnfudwyr o Rwmania.

Mae'r prif bleidiau wedi beirniadu Nigel Farage am ddweud y byddai'n poeni os fyddai pobl o Romania yn symud i mewn i'r tŷ drws nesaf iddo.

Dywedodd Nathan Gill nad oedd y blaid "yn erbyn mewnfudo gan unrhyw grŵp o gwbl" ond ei fod yn credu y dylai cefndir pobl gael ei "archwilio yn iawn".

Ddydd Sul, dywedodd Mr Farage ei fod yn difaru defnyddio'r geiriau, ond bod "problem go iawn" gyda phobl o Romania yn troseddu.

Ymddiheuriad

Mewn cyfweliad gyda LBC Radio ddydd Gwener, gofynnwyd i Mr Farage beth oedd y gwahaniaeth rhwng cael grŵp o ddynion o Rwmania neu blant o'r Almaen fel cymdogion.

"Rydych chi'n gwybod beth yw'r gwahaniaeth," meddai Mr Farage.

Ychwanegodd: "Gofynnwyd i mi, os byddai grŵp o ddynion o Rwmania yn symud i mewn drws nesaf, a fyddech chi'n poeni? Ac os ydych chi'n byw yn Llundain, dwi'n meddwl y byddech chi."

Dywedodd arweinydd y blaid Lafur, Ed Miliband, bod y sylwadau yn "anfri hiliol", tra bod arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, wedi dweud nad oes unrhyw le i'w sylwadau ym Mhrydain.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Nigel Farage ei fod yn difaru defnyddio'r geiriau a wnaeth yn y cyfweliad

Ymddiheurodd Mr Farage am ei sylwadau ddydd Sul, gan ddweud: "Dwi'n difaru'r ffaith fy mod, mewn ffordd, wedi blino'n llwyr, a wnes i ddim dewis... wnes i ddim defnyddio'r ffurf orau o eiriau wrth ymateb a hoffwn fod wedi gwneud.

"Mae gormod o droseddu gan y gangiau yna o Rwmania wedi dod i Lundain - gallwn i wedi bod yn fwy clir.

"Ond, ydych chi'n gwybod beth? Mewn bywyd, weithiau rydyn ni'n cael pethau'n anghywir."

'Dim rheoli'

Ond dywedodd Nathan Gill, prif ymgeisydd Ewropeaidd UKIP yng Nghymru, bod Mr Farage wedi gwneud y sylwadau oherwydd "nad oes modd rheoli" mewnfudo o Rwmania i Brydain.

"Os bydden ni'n archwilio yn iawn, os bydden ni'n caniatáu i bobl gyda'r sgiliau sydd angen arnom ni i ddod i mewn, yna byddai neb yn poeni am bwy sy'n symud drws nesaf iddyn nhw," meddai.

"Nid ydym ni yn erbyn mewnfudo gan unrhyw grŵp o gwbl.

"Beth rydyn ni am weld, a beth rydyn ni wedi dweud ers y dechrau yw ein bod ni o blaid mewnfudo, ond o blaid mewnfudo wedi ei reoli.

"Dydyn ni ddim yn poeni os ydyn nhw'n dod o Rwmania, Bwlgaria, India neu China cyn belled a bod ganddyn nhw'r sgiliau yr ydyn ni eu hangen."

'Ymosodiad'

Yn ôl Mr Gill, mae cyfres o straeon negyddol am UKIP yn y papurau newydd yn rhan o ymosodiad gan y wasg ar y blaid.

Dywedodd Mr Gill, sy'n byw ar Ynys Môn: "Mae 'na rai drwg yn ein plaid, mae 'na rai drwg ym mhob plaid ac mae angen i ni ddod o hyd iddyn nhw a chael gwared ohonynt.

"Mae'n siomedig iawn pan mae'n digwydd oherwydd mae'n cymryd yr holl sylw oddi ar y neges sydd gennym ni, y neges bositif a'r neges y mae pobl yn cytuno gyda hi.

"Fel mae'r polau piniwn yn dangos rydyn ni'n parhau i godi oherwydd mae pobl yn gallu gweld bod hwn yn ymosodiad parhaol gan y wasg ac nid dyma yw pwynt y blaid."

Mae UKIP yn ceisio sicrhau bod Mr Gill yn cael ei ethol fel un o bedwar Aelod Seneddol Ewropeaidd ar gyfer Cymru.

Ar hyn o bryd mae gan y blaid un o'r seddau, wrth ochr y Ceidwadwyr, Llafur a Phlaid Cymru.

Mae rhestr o'r holl ymgeiswyr a'r pleidiau sydd yn sefyll yn yr etholiadau Ewropeaidd ar ddydd Iau Mai 22 ar gael yma.