Dyn mewn cyflwr difrifol wedi damwain
- Published
Mae dyn yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger Dolgellau ddydd Sul.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd ei bod wedi eu galw i ddigwyddiad ar yr A494 ger Rhydymain am 13:20 brynhawn Sul.
Un cerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad, beic modur Yamaha lliw arian.
Dywedodd yr heddlu bod y dyn wedi cael anafiadau difrifol, a'i fod yn cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Mae'r heddlu yn apelio am dystion i gysylltu ar 101 gan roi'r rhif R073675.