Canghellor Caerdydd: Trafod y penodiad wedi'r blerwch
- Cyhoeddwyd

Mae cymrawd ym Mhrifysgol Caerdydd unwaith eto wedi beirniadu'r brifysgol am y ffordd yr aethon nhw ati i benodi Canghellor newydd.
Mae'r Athro Brian J Ford wedi ysgrifennu at y brifysgol, oriau cyn iddyn nhw gyfarfod i drafod y mater gan ddweud bod angen "delio yn y ffordd briodol" gyda phwy bynnag wnaeth achosi'r blerwch.
Y disgwyl oedd y byddai Griff Rhys Jones yn dod yn Ganghellor newydd ond cafodd y penodiad ei ohirio am fod rhai yn credu dylai'r canghellor presennol, Syr Martin Evans gael cynnig i barhau yn ei swydd.
Wedi hyn mi ddywedodd Griff Rhys Jones ei fod yn tynnu ei enw yn ôl.
Y disgwyl yw y bydd Syr Martin Evans yn cael ei ddewis i barhau yn ei swydd am bum mlynedd arall.
Mae'r Athro Ford wedi dweud yn y gorffennol bod y digwyddiad wedi bod yn destun "cywilydd".
Mewn llythyr at yr is-ganghellor, yr Athro Colin Riordan, mae'n dweud y byddai'n achosi trafferthion i'r brifysgol ar draws y byd os y byddai pobl yn dod i wybod ei bod wedi "ymddwyn yn fler" tuag at "ganghellor maen nhw yn adnabod ac yn parchu".
Dywedodd bod llawer o bobl yn teimlo yn gryf am y mater a bod angen "delio yn y ffordd briodol" gyda'r rhai oedd yn gyfrifol. "Dw i'n siwr y byddwch chi yn cytuno gyda fi am hynny!"
Mae'r brifysgol wedi ymateb trwy ddweud y byddan nhw yn gwneud datganiad ar ôl y cyfarfod yn ddiweddarach brynhawn Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2014