Cwest Swanland: 'dim golwg o'r dynion eraill'
- Cyhoeddwyd

Mae dau oroesodd ar ôl i long suddo oddi ar arfordir Cymru wedi disgrifio'r hyn ddigwyddodd y noson honno yn 2011.
Bu farw'r Prif Swyddog Leonid Safonov, 50 oed, y peiriannydd Mikhail Starchevoy, 60, y cogydd Oleg Andriets, 49, y peiriannydd Gennadiy Meshkov, 52, y meistr Yury Shmelev, 44, a'r badfeistr Sergey Kharchenko, 51, pan suddodd llong y Swanland oddi ar arfordir Pen Llŷn.
Roedd y chwe morwr yn dod o Rwsia.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon ddatganiad Roman Savin fod y llong wedi ei tharo gan don tua dau y bore gan achosi i ganol y llong blygu.
Dywedodd fod y criw wedi teimlo'r ergyd: "Mi oeddwn i dan y dŵr. Yr unig beth alla i gofio ydy trio nofio i fyny."
Ar ôl dod i'r wyneb mi ddechreuodd Mr Savin a Vitaliy Karpenko weiddi ar aelodau eraill oedd ar fwrdd y llong ond doedd dim golwg ohonyn nhw.
Yn arw
Mae Mr Karpenko wedi dweud bod ei hi'n arw'r noson honno ond eu bod nhw wedi gweithio o dan amgylchiadau gwaeth o'r blaen.
Mi glywodd y cwest gan Richard Taylor, un o'r bobl oedd yn rhan o'r ymgyrch i achub y dynion. Mi ddechreuon nhw chwilio am y criw am 2.52 y bore ac ar ôl dod o hyd i Mr Savin a Mr Karpenko mi wnaethon nhw barhau i chwilio tan ryw 5.30.
"Mi oedd hi'n reit arw felly roedd yr amgylchiadau'n anodd y noson honno".
Yn gynharach mi ddywedodd Glyn Aled Jones, oedd yn gyfrifol am y gwaith papur ar gyfer llwytho'r llong, nad oedd unrhywbeth yn anghyffredin gyda'r llong na'r broses llwytho.
Roedd y Swanland yn cario 2,730 tunnell o wenithfaen o Landdulas ger Bae Colwyn i Cowes ar Ynys Wyth pan aeth i drafferthion.
Cafodd y llong ei darganfod filltir oddi ar yr arfordir, 80 metr o dan wyneb y môr.
Mae'r crwner Dewi Pritchard Jones wedi dweud fod angen i'r rheithgor benderfynu ai marw trwy foddi wnaeth y dynion.
Roedd yr unig gorff gafodd ei ddarganfod, un Mr Safonov, yn dangos ei fod wedi boddi.
Straeon perthnasol
- 19 Mai 2014