BBC Cymru Fyw

Enwi'r dyn wnaeth farw yn Llyn Tegid

Published
image copyrightEvan L Dobson
image captionCafodd y gwasanaethau brys eu galw brynhawn Sadwrn
Mae ymchwiliad wedi dechrau i farwolaeth Paul Davies aeth i drafferthion pan oedd o mewn caiac ar Lyn Tegid.
Cafodd corff y dyn 34 oed o Runcorn ei ddarganfod ddydd Sul gan aelodau o'r tîm chwilio tanddwr.
Roedd y caiac wedi troi drosodd brynhawn Sadwrn.
Llwyddodd dau arall oedd yn y caiac - dyn arall a phlentyn - i gyrraedd y lan ac fe gafon nhw'u cludo i Ysbyty Maelor Wrecsam.
Dyw'r heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus ond mi fydd swyddogion yn cynnal ymchwiliadau ar ran y crwner a bydd ffeil yn cael ei chyflwyno.

Straeon perthnasol

  • Dod o hyd i gorff yn Llyn Tegid