Cyhuddo dyn o wneud lluniau anweddus

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 29 oed o Wynedd yn wynebu 10 cyhuddiad o wneud, prosesu a dosbarthu lluniau anweddus o blant.

Mae Liam Alexander Dorr o Dywyn hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o ddenu merch dan 15 i gymryd rhan mewn gweithred rhyw.

Honnir ei fod wedi gwneud a phrosesu a chael ei dalu am ddosbarthu hyd at 178 o luniau anweddus lefel A , B ac C rhwng Ionawr 2008 ac Ionawr 2013.

Roedd y cyhuddiadau yn cynnwys dosbarthu delweddau a ffilm o blentyn.

Yn Llys Ynadon Dolgellau, ni roddodd Mr Dorr ble. Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Mehefin.