Pennaeth yn gadael i geisio achub purfa Aberdaugleddau

  • Cyhoeddwyd
Purfa Murco

Mae rheolwr gyfarwyddwr cwmni olew Murco, Thomas McKinlay wedi camu o'r neilltu er mwyn gweithio ar gais i brynu'r burfa olew yn Aberdaugleddau.

Fis diwethaf daeth y trafodaethau ar gyfer gwerthu'r safle i ben heb ddatrysiad gan arwain at bryder ynglŷn â 400 o swyddi ar y safle.

Gallai'r newyddion diweddaraf gynnig gobaith i'r gweithwyr y gallai eu swyddi gael eu cadw.

Mae McKinley wedi gadael ei swydd i osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau.

Ym mis Ebrill, dechreuodd y cwmni ymgynghoriad ffurfiol 45 diwrnod gyda'r staff am ddyfodol y burfa.

Mae'r safle, sy'n cynhyrchu 135,000 o gasgenni o olew y diwrnod, wedi bod ar werth ers pedair blynedd.

Roedd y cwmni wedi bod cynnal trafodaethau i werthu'r burfa i gwmni Greybull Capital ond ni lwyddwyd i gyrraedd cytundeb.

Mae'r burfa yn un o brif gyflogwyr y porthladd ers iddi agor yn 1973.