Beirniadu gwasanaethau gyrfaol

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth
Disgrifiad o’r llun,
Mae presenoldeb, ymddygiad a pherfformiad i gyd wedi gwella

Ansawdd y cyngor gyrfaol mae disgyblion yn ei dderbyn yw'r agwedd wannaf o'r gwasanaethau cymorth sy'n cael eu cynnig yn yr ysgol, yn ôl adroddiad gan Estyn.

Mae'r adroddiad, sy'n canolbwyntio ar ddisgyblion rhwng 14 a 16, yn dod i'r casgliad y dylai'r arweiniad gyrfaol sy'n cael ei gynnig fod yn well ac y dylai gael ei gynnig yn gynt.

Mae'n dweud mai "lleiafrif o ysgolion yn unig" sy'n cynnig y cyfle i ddisgybl drafod cynlluniau at y dyfodol wrth ddewis cyrsiau ym mlynyddoedd 9 ac 11.

Yn ogystal, mae achosion lle nad yw'r wybodaeth am gyrsiau, cyfleoedd gyrfa na llwybrau dilyniant sy'n cael ei roi i ddisgyblion yn gywir, diduedd na chyfredol.

Gwelliannau

Ond mae elfennau cadarnhaol hefyd, yn ôl Estyn, ers cyflwyno'r fframwaith Llwybrau Dysgu bum mlynedd yn ôl.

Mae'r rhain yn cynnwys y ffaith bod presenoldeb, ymddygiad a pherfformiad i gyd wedi gwella, gyda'r cynnydd mwyaf i'w weld ymysg y disgyblion sy'n wynebu'r mwyaf o rwystrau.

Roedd ansawdd y cymorth personol oedd ar gael i ddisgyblion hefyd yn gryf, yn ôl yr adroddiad.

Meddai Ann Keane, y Prif Arolygydd, "Ers cyflwyno fframwaith Llwybrau Dysgu Llywodraeth Cymru yn 2009, mae disgyblion wedi cael mynediad gwell at wasanaethau er mwyn helpu i gynorthwyo eu dysgu."

'Angen canolbwyntio'

Ychwanegodd Ms Keane: "Er hynny, nid yw tua hanner y disgyblion o hyd yn cael TGAU da mewn Cymraeg/Saesneg neu fathemateg, felly mae angen i ysgolion ganolbwyntio'n fwy ar wella cyrhaeddiad.

"Hefyd, rwy'n annog ysgolion i ddatblygu ansawdd eu harweiniad gyrfaol i ystyried anghenion unigol. Mae blwyddyn 9 yn flwyddyn holl bwysig ym mywyd disgyblion ac nid ydynt yn cael cyngor yn ddigon cynnar.

"Dylai ysgolion fod yn annog disgyblion i siarad am eu dyheadau a'u gobeithion fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol eu hunain."

Un o'r rhesymau dros y gwendidau yw bod ysgolion wedi methu â darganfod ffyrdd i gynnig y gwasanaethau oedd yn arfer cael eu darparu gan Gyrfa Cymru, yn ôl Estyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud eu bod nhw eisoes yn gweithredu i wella cyngor gyrfaol mewn ysgolion.

'Canllawiau newydd'

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Mae'n newyddion da bod ein fframwaith Llwybrau Dysgu yn cael buddion go iawn o ran presenoldeb, ymddygiad a pherfformiad.

"Mae'n dangos fod yr hyn gafodd ei benderfynu bum mlynedd yn ôl ... yn gywir."

Ychwanegodd y llefarydd: "Fe wnaethon ni ysgrifennu at bob ysgol ym mis Tachwedd 2013 er mwyn esbonio'r newidiadau i waith Gyrfa Cymru a'r goblygiadau iddyn nhw.

"Rydym hefyd yn y broses o lunio canllawiau newydd ar rôl a chyfrifoldebau ysgolion, coleg a Gyrfa Cymru mewn darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau cynghori."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol