Ysgol 'am symud ymlaen'
- Cyhoeddwyd

Mae arweinwyr ysgol yn dweud eu bod am symud ymlaen ar ôl i ddirprwy bennaeth gael ei garcharu am bum mlynedd wedi iddo ffilmio plant mewn toiledau.
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Caerdydd a llywodraethwyr Ysgol Gyfun Glantaf eu bod am ganolbwyntio ar "lwyddiannau sylweddol a pharhaus ein myfyrwyr".
Fe gyfaddefodd Gareth Williams, 47 oed, i 31 o gyhuddiadau gan gynnwys naw o voyeuriaeth, a dywedodd y barnwr ei fod wedi achosi "arswyd go iawn".
Cafodd Williams ei ddal yn dilyn cyrch byd eang oedd yn targedu defnyddwyr gwefan o gam-drin plant.
'Pryder am les disgyblion'
Clywodd y gwrandawiad dedfrydu ei fod wedi gosod camerâu cudd mewn dau gartref preifat ac yn ystafelloedd newid yn Ysgol Glantaf lle'r oedd yn gweithio.
Fe guddiodd un camera ar danc dwr yn yr ysgol gan dynnu lluniau o 31 o blant rhwng 11 ac 16 oed.
Wedi'r ddedfryd fe ddaeth datganiad ar y cyd gan yr ysgol, y llywodraethwyr a Chyngor Caerdydd yn dweud:
"Fel arfer ein prif bryder yw am les y disgyblion ac mae angen canolbwyntio nawr ar sut mae sicrhau bod cymuned yr ysgol yn derbyn cefnogaeth lle bo angen.
"Mae'r ysgol a'r gymuned ehangach nawr yn edrych ymlaen at ganolbwyntio ar lwyddiannau sylweddol a pharhaus ein myfyrwyr gan roi digwyddiadau misoedd aeth heibio yn gadarn y tu ôl i ni."
'Sâl yn gorfforol'
Daeth Williams yn destun ymchwiliad gan yr heddlu wedi i arbenigwyr cyfrifiadurol ganfod ei fod wedi prynu delweddau o gam-drin plant ar y we.
Yn ei gartref fe ddaeth heddlu o hyd i ddau liniadur ac 11 co' bach ynghyd ag offer camerâu bach.
Clywodd y llys fod ganddo 16,419 o ddelweddau anweddus o blant a 691 o fideos yn ei feddiant.
Wrth ei ddedfrydu dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands bod Williams wedi colli ei yrfa a'i enw da, ond nad oedd hynny'n "ddim i gymharu â'r pryder a'r arswyd go iawn sy'n cael ei deimlo gan rieni oedd wedi ymddiried eu plant i'w ofal".
Wedi'r gwrandawiad ddydd Llun dywedodd gwraig Williams, Georgina, ei bod yn teimlo'n "sâl yn gorfforol" gan weithredoedd ei gwr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2014