Cymru dan-21 1-3 Lloegr dan-21

  • Cyhoeddwyd
Nathan Redmond of England scoresFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Nathan Redmond yn sgorio un o'i dair gôl i Loegr

Mae tîm dan-21 Lloegr wedi sicrhau chweched buddugoliaeth yn olynol yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer cystadleuaethau Euro 2015 wrth guro Cymru o 3-1 yn Stadiwm Liberty nos Lun.

Diolch i hat-tric Nathan Redmond, mae Lloegr bellach naw pwynt yn glir o'r gweddill ar frig y grŵp, ac os bydd Moldofa'n methu ennill yn y Ffindir ar 1 Mehefin yna fe fydd Lloegr yn sicr o'u lle yn y rowndiau terfynol.

Sgoriodd Redmond i roi Lloegr ar y blaen cyn i Gwion Edwards o glwb Abertawe roi gobaith i Gymru drwy unioni'r sgor.

Ond daeth dwy arall gan Redmond o glwb Norwich i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Er bod y golled yn gadael Cymru yn y trydydd safle, mae gobaith o hyd iddyn nhw gipio lle yn y gemau ail gyfle os fyddan nhw'n gorffen yn ail yn y grŵp.

Mae enillwyr y deg grŵp a'r pedwar gorau sy'n gorffen yn ail yn mynd i'r gemau ail gyfle i benderfynu pa saith o dimau sy'n ymuno gyda'r Weriniaeth Siec (sy'n cynnal y gystadleuaeth) yn y rowndiau terfynol.

Bydd Cymru'n wynebu'r Ffindir ar 5 Medi ac yna Lithwania ar 9 Medi - y ddwy gêm oddi cartref.