Cymdeithas yn protestio eto
- Cyhoeddwyd

Fe ddywed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod eu haelodau wedi gosod sticeri ar swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon fore Mawrth.
Dywed y mudiad eu bod nhw'n gweithredu er mwyn galw ar y Prif Weinidog Carwyn Jones i newid polisïau mewn ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad.
Yn ôl Heddlu'r Gogledd, daeth y brotest i ben heb ddigwyddiad o bwys.
Am tua 08:00 fe osodwyd sticeri gyda'r slogan "Llywodraeth Cymru - Gweithredwch" arnynt ar ffenestri'r swyddfeydd fel rhan o ymgyrch y mudiad i weld Llywodraeth Cymru yn gwneud '6 Pheth' i hybu adferiad yr iaith Gymraeg, gan gynnwys addysg Gymraeg i bawb, ariannu teg i'r iaith a system gynllunio newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas, Cen Llwyd: "Ymhell dros flwyddyn ers canlyniadau'r Cyfrifiad, mae'n hen bryd i'r Llywodraeth gyflwyno newidiadau polisi a fydd yn galluogi pawb yn ein gwlad i fyw yn Gymraeg.
"Rydyn ni'n galw ar y Llywodraeth i weithredu o ddifrif mewn chwe maes penodol, er mwyn sicrhau bod yr iaith yn tyfu. Gydag ewyllys gwleidyddol gall pethau newid, ond hyd yn hyn mae ymateb y Llywodraeth wedi bod yn chwerthinllyd.
"Ni fydd camau bach yn ymateb digonol i'r argyfwng - mae angen cymryd camau uchelgeisiol ym meysydd addysg, cynllunio ac ariannu.
"Gobeithio y bydd ein protestiadau yn eu sbarduno i weithredu."
Mae'r BBC wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb i'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- 12 Mai 2014
- 25 Ebrill 2014
- 23 Ebrill 2014