Rhybudd am dywydd mawr
- Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am dywydd gwael mewn rhannau o Gymru ddydd Iau.
Bydd y rhybudd yn weithredol o 03:00 fore Iau tan 19:00 gyda'r nos, ac ar gyfer ardaloedd o dde-ddwyrain a chanolbarth y wlad.
Dywed y Swyddfa Dywydd: "Mae disgwyl i fand o law trwm symud ar draws de-orllewin y DU yn ystod bore Iau. Bydd cawodydd trwm gyda pheth stormydd mellt a tharanau yn ymledu i ardaloedd eraill yn ystod y prynhawn.
"Dylai'r cyhoedd fod yn ymwybodol bod risg o lifogydd ar rai ffyrdd."
Yr ardaloedd sydd o dan fygythiad yw :-
- Blaenau Gwent;
- Pen-y-bont ar Ogwr;
- Caerffili;
- Caerdydd;
- Merthyr Tudful;
- Sir Fynwy;
- Castell-nedd Port Talbot;
- Casnewydd;
- Sir Benfro;
- Sir Gaerfyrddin;
- Powys;
- Rhondda Cynon Taf;
- Abertawe;
- Torfaen;
- Bro Morgannwg.
Fe ychwanegodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhannau o'r wlad weld cymaint â 40mm o law mewn mannau.
Fe ddaw union lwybr y ffrynt yn fwy amlwg yn ddiweddarach, ac fe ddywedodd y Swyddfa Dywydd y byddan nhw'n diweddaru'r rhybudd yn nes ymlaen brynhawn Mercher.