Cyffuriau: Carcharu dau frawd
- Cyhoeddwyd
andjasonlaw.jpg)
Mae dau frawd wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 13 mlynedd wedi i blismyn ganfod y cyffur crac cocên o dan garped yn eu fflat yng Nghaerdydd.
Cafodd Colin Richard a Jason Law eu harestio yn ardal Riverside o'r ddinas wedi i swyddogion weld Richards, 38 oed, yn gwerthu cyffuriau.
Pan aethon nhw â Richards yn ôl i'w fflat fe welon nhw ei frawd gyda chanabis, arian parod ac offer gwerthu cyffuriau.
Ar ôl archwilio'r fflat yn fwy manwl fe ddaethon nhw o hyd i'r cyffur cocên o dan garped ynghyd â £1,388 mewn bag.
Cafodd Law, 32 oed, ei garcharu am chwe blynedd wedi iddo bledio'n euog i fod â crac cocên a chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o werthu.
Fe gafodd Richards ddedfryd o saith mlynedd dan glo wedi i lys ei gael yn euog o'r un cyhuddiadau ar ddiwedd achos chwe diwrnod.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sean Hardy: "Mae Richards a Law yn werthwyr cyffuriau o Lundain oedd wedi sefydlu eu hunain yng Nghaerdydd gyda'r bwriad o werthu cyffuriau dosbarth A.
"Dylai'r dedfrydau yma atal unrhyw un sy'n ystyried cyflenwi'r cyffuriau peryglus yma, yn enwedig rhai sy'n meddwl am deithio i dde Cymru i sefydlu busnes cyffuriau."