'Marciau cwestiwn' am gynllun glofa

  • Cyhoeddwyd
Malcolm FyfieldFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Mae Malcolm Fyfield yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad

Mae achos glofa'r Gleision wedi clywed tystiolaeth gan blismon oedd ar ddyletswydd adeg y trychineb ym Medi 2011.

Cafodd David Powell, 50, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, eu lladd wedi i hyd at 650,000 galwyn o ddŵr lifo i'r lofa.

Cafodd Huw Griffiths ei benodi fel cyswllt gyda theulu Malcolm Fyfield pan oedd yn cael ei drin fel un o'r dioddefwyr yn hytrach na'i fod o dan amheuaeth.

Mae Mr Fyfield yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad yn dilyn y digwyddiad pan fu farw pedwar glöwr wedi i ddŵr lifo i'r pwll glo lle'r oedden nhw'n gweithio.

Ceisio adfywio

Dywedodd Mr Griffiths bod Mr Fyfield wedi ei ffonio ar Hydref 8, 2011, i ddweud ei fod yn awyddus i drafod yr hyn ddigwyddodd.

Ar y pryd roedd wedi torri ei law, roedd ganddo anafiadau i'w ben, cleisiau dros ei gorff ac roedd ei gorff hefyd wedi chwyddo o ganlyniad i'r "profiad o bron a boddi".

Clywodd y llys bod Mr Fyfield wedi dweud wrth Mr Griffiths ei fod wedi canfod corff David Powell o dan ddaear ond nad oedd wedi medru symud y corff oherwydd gweddillion o'i gwmpas.

Disgrifiad o’r llun,
Cafodd David Powell, 50, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, eu lladd

Fe geisiodd adfywio Mr Powell, ond yn ofer.

Yna fe welodd oleuni'n symud yn y pellter ac aeth tuag ato. Roedd y golau yn perthyn i Philip Hill ac roedd yn symud oherwydd y dŵr.

Fe geisiodd Mr Fyfield adfywio Mr Hill, ond eto heb lwyddiant.

Dywedodd Mr Griffiths bod Mr Fyfield wedi cropian ar hyd llwybr cyn llwyddo i dynnu ei hun o'r dŵr ac yna dianc ar hyd hen lôn o'r pwll.

Marciau cwestiwn

Yna fe ddywedodd Mr Griffiths bod Mr Fyfield wedi dweud wrtho fod marciau cwestiwn am ddilysrwydd y cynlluniau tanddaearol.

Yn ôl Mr Griffiths, fe ddywedodd Mr Fyfield bod "nifer o anghysonderau" rhwng y cynllun a'r sefyllfa mewn gwirionedd.

Aeth Mr Griffiths ymlaen i sôn am y diwrnod y cafodd Mr Fyfield ei arestio yn ei gartref, gan ddweud ei fod "yn drallodus a dan deimlad mawr" a'i fod yn crynu drosto.

Wrth gael ei groesholi gan Elwen Evans ar ran yr amddiffyniad, dywedodd Mr Griffiths bod Mr Fyfield wedi dweud ei fod am gynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gallai.

Mae Malcolm Fyfield, 58 oed, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad ac mae'r cwmni oedd yn berchen ar y safle, MNS Mining, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.

Mae'r achos yn parhau.