Project Spade: Heddlu yn ymchwilio
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i bedwar achos posib wedi i wybodaeth gael ei phasio iddynt gan heddlu yn Toronto.
Roedd y llu o Ganada wedi bod yn ymchwilio i achosion o wneud a gwerthu fideos a lluniau o blant yn cael eu cam-drin, fel rhan o 'Project Spade'.
Fe ddywedon nhw fis Tachwedd eu bod wedi canfod nifer o gwsmeriaid oedd yn defnyddio gwefan benodol ac wedi gyrru gwybodaeth i 50 o wledydd.
Dyma arweiniodd at ddirprwy brifathro Ysgol Gyfun Glantaf, Gareth Williams, ei ddal. Cafodd ei ddedfrydu ddydd Llun i bum mlynedd dan glo wedi iddo bledio'n euog i 31 o gyhuddiadau: naw cyhuddiad o voyeuriaeth, 20 cyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant, a dau o feddu ar luniau anweddus o blant.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys wrth BBC Cymru: "Mae pedwar ymholiad yn cael eu cynnal yn dilyn gwybodaeth gafodd ei dderbyn fel rhan o Project Spade."
Ychwanegodd yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol bod data'n ymwneud â 2,345 o bobl wedi cael eu pasio i heddluoedd ar draws y DU ar gyfer ymchwilio'n bellach iddynt.
Straeon perthnasol
- 20 Mai 2014
- 19 Mai 2014