Bil o £60,000 i glwb rygbi Castell-nedd

  • Cyhoeddwyd

Mae ansicrwydd am ddyfodol un o glybiau rygbi mwyaf Cymru, wrth iddyn nhw wynebu bil o £60,000.

Cyflwynwyd y bil i'r clwb gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot am fethu â thalu eu trethi busnes.

Mae'r cyngor wedi derbyn caniatâd i fynd i'r llysoedd er mwyn ceisio cael yr arian yn ôl.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mi fydd y cyngor nawr yn cymryd camau ar unwaith, gan gynnwys ceisio am orchymyn dirwyn i ben yn erbyn y cwmni er mwyn ceisio adfer y ddyled.

"Mae'r cyngor yn gresynu yr angen am y weithred hon ond mae gennym gyfrifoldeb clir i'r trethdalwr a'r busnesau yno sy'n talu eu trethi busnes..."

Fis Ebrill cafodd perchennog y clwb ei arestio ar amheuaeth o dwyll a phrosesu arian yn anghyfreithlon.

Mae Geraint Hawkes, 47 bellach ar fechnïaeth tra mae'r heddlu yn parhau gyda'u hymholiadau.