Ehangu addysg gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd
- Published
Mae'r galw cynyddol am lefydd mewn ysgolion cynradd yn y brifddinas wedi arwain at gynlluniau newydd i ddatblygu ysgolion Caerdydd.
Mae Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar ehangu addysg gynradd yn ne'r brifddinas, gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae'r Cyngor yn gofyn am ymateb i'w cynlluniau i ddatblygu'r safleoedd canlynol:
- Ysgol newydd ar safle Canolfan Hamdden Channel View yn Grangetown
- Ehangu Ysgol Gynradd Parc Ninian yn Grangetown
- Defnyddio tir gwag ger Neuadd y Sir yn Nhre-biwt
- Ehangu Ysgol Gynradd Gatholig Sant Cuthbert yn Nhre-biwt
- Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Forwyn Fair yn Nhre-biwt
- Ehangu Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Nhre-biwt
Canfod safbwyntiau
Dywedodd Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau y Cyngor Julia Magill:
"Rwy'n hynod falch ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt lle gallwn gyflwyno dewisiadau i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg i blant sy'n byw yn ne'r ddinas. Un o fy mlaenoriaethau pennaf yw darparu lleoedd cynradd ychwanegol i bobl ifanc Tre-biwt, Grangetown, Treganna a Glan-yr-afon felly mae'n beth braf gweld ein bod ni'n symud gam yn nes at sicrhau bod hyn yn digwydd. "
Ychwanegodd Julia Magill: "Mae'r Cyngor dan bwysau ariannol difrifol ac un o'r ffyrdd rydym yn ceisio amddiffyn gwasanaethau anstatudol, fel gwasanaethau chwarae a hamdden, yw drwy eu cysylltu â datblygiadau addysg.
"Mae'r broses ymgysylltu yn ymwneud â chanfod safbwyntiau pobl ar y chwe safle posibl, fel y gallwn ystyried eu safbwyntiau cyn cynnal ymgynghoriad statudol."
Ar hyn o bryd mae llawer o rieni yn ne'r ddinas yn danfon eu plant i Ysgolion cynradd Treganna neu Pwll Coch ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.
Yn ôl llefarydd ar ran y Cyngor mae'n " ddyddiau cynnar" o ran datblygu'r cynlluniau yma ac maen nhw wedi gwahodd sylwadau gan drigolion. Fe fydd lleoliad unrhyw ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd yn rhan o'r ymgynghoriad.
Straeon perthnasol
- Published
- 31 Ionawr 2014