Cwest Swanland: 'Marwolaeth drwy anffawd'

  • Cyhoeddwyd
SwanlandFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Suddodd yr MV Swanland oddi ar arfordir Penrhyn Llŷn ym mis Tachwedd 2011

Mae rheithgor wedi penderfynu ar reithfarn o farwolaeth drwy anffawd yn achos chwe morwr o Rwsia, a fu farw pan suddodd eu llong nwyddau oddi ar arfordir Gwynedd.

Bu farw'r Prif Swyddog Leonid Safonov, 50 oed, y peiriannydd Mikhail Starchevoy, 60, y cogydd Oleg Andriets, 49, y peiriannydd Gennadiy Meshkov, 52, y meistr Yury Shmelev, 44, a'r badfeistr Sergey Kharchenko, 51, pan darodd llong yr MV Swanland yn erbyn ton ym mis Tachwedd 2011.

Corff Mr Safonov oedd yr unig un a gafodd ei ddarganfod, a dangosodd archwiliad post mortem ei fod wedi boddi.

Dim ond dau aelod o'r criw oroesodd y ddamwain.

Roedd y Swanland yn cario 2,730 tunnell o wenithfaen o Landdulas, ger Bae Colwyn, i Cowes, ar Ynys Wyth, pan aeth i drafferthion.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon nad oedd y criw wedi ymgynnull pan darodd y llong yn erbyn y don, a oedd wedi "lleihau eu gobaith o adael y llong mewn ffordd drefnus yn sylweddol".

Roedd y Crwner Dewi Pritchard-Jones wedi annog y rheithgor i osgoi gwneud unrhyw argymhellion, gan fod Adran Ymchwilio Damweiniau Morol Llywodraeth San Steffan eisoes wedi cyhoeddi adroddiad ar y ddamwain.

Ychwanegodd fod casgliadau'r adroddiad hwnnw yn mynd yn llawer pellach na'r cwest ac yn delio â materion rhyngwladol.

"Mae ymchwiliad enfawr wedi cael ei gynnal," meddai.