Canghellor Caerdydd i barhau am dymor arall

  • Cyhoeddwyd
Griff Rhys JonesFfynhonnell y llun, Cardiff University
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd llun ei dynnu o Mr Rhys Jones yn ei wisg wythnos cyn y penodiad

Mae Syr Martin Evans wedi ei ddewis gan gyngor Prifysgol Caerdydd fel y Canghellor am dymor arall.

Mae'r brifysgol wedi cadarnhau hyn mewn datganiad ac wedi dweud y bydd angen i'r llys "ystyried a chadarnhau hyn yn swyddogol".

Roedden nhw yn cyfarfod brynhawn Llun i drafod y mater ar ôl i flerwch ddigwydd ynglŷn â'r penodiad.

Y disgwyl oedd y byddai Griff Rhys Jones yn dod yn Ganghellor newydd ond cafodd y penodiad ei ohirio am fod rhai yn credu dylai'r canghellor presennol, Syr Martin Evans gael cynnig i barhau yn ei swydd.

Mae'r Athro Brian J Ford wedi beirniadu'r brifysgol, gan ddweud mewn llythyr at yr is-ganghellor bod angen "delio yn y ffordd briodol" gyda'r rhai oedd yn gyfrifol.