Gordewdra: 'Pryder' am anghysondeb
- Cyhoeddwyd

Mae Pwyllgor Iechyd y Cynulliad wedi mynegi pryder nad yw strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gordewdra ddim yn cael ei "gweithredu'n llawn ledled Cymru".
Yn ôl y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dim ond yn un o'r saith bwrdd iechyd lleol yng Nghymru, sef bwrdd Aneurin Bevan, y mae gwasanaethau 'Lefel Tri' arbenigol digonol ar gael i bobl ordew.
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r ddogfen 'Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan' yn "llawn yn genedlaethol er mwyn sicrhau gwasanaethau cyson o safon uchel i bob claf, i'w helpu gyda'i ffordd o fyw, ei ffitrwydd a'i ddeiet".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi derbyn copi o'r adroddiad, ac y byddan nhw'n ymateb maes o law.
'Problem ddifrifol'
Dywedodd David Rees AC, cadeirydd y pwyllgor: "Mae 'Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan' Llywodraeth Cymru yn ddogfen strategol gynhwysfawr i'w chanmol ond, yn anffodus, nid yw wedi'i gweithredu'n llawn ledled Cymru.
"Yn ogystal ag effaith gymdeithasol, seicolegol ac economaidd gordewdra ar yr unigolyn, mae'n costio miliynau i'n gwasanaethau iechyd bob blwyddyn ac mae'r ffigurau'n dangos ei bod yn datblygu'n broblem ddifrifol ymhlith ein plant hefyd.
"Mae'n hanfodol inni ddarparu cymaint o gymorth â phosibl wrth fynd i'r afael â'r broblem hon."
Amcangyfrifir bod gordewdra yn costio tua £73 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru, ac mae'n cyfrannu i gyflyrau fel iselder, clefyd siwgr a phwysedd gwaed uchel.
Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru, roedd chwech allan o bob deg oedolyn yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew yn 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2014