Ceidwadwyr yn ymosod ar addewid UKIP o refferendwm
- Cyhoeddwyd

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymosod o'r newydd ar UKIP, yn nyddiau olaf yr ymgyrch ar gyfer etholiad Senedd Ewrop.
Dywedodd prif ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Kay Swinburne, bod addewid UKIP o refferendwm ar unwaith ar aelodaeth o'r UE yn "or-syml".
Ond mae polisi'r Torïaid o aildrafod aelodaeth y DU yn yr UE cyn refferendwm yn anodd i gyfathrebu, fe gyfaddefodd.
Dywedodd Ms Swinburne mai ei phlaid hi yn unig sydd yn ymrwymo i gynnal refferendwm ac yn medru anrhydeddu yr addewid hwnnw.
Mae'r Ceidwadwyr wedi addo i gynnal refferendwm 'mewn neu allan' os ydynt yn ennill etholiad cyffredinol y DU y flwyddyn nesaf.
'Baich'
Roedd Ms Swinburne yn siarad ar ymweliad â chanolfan ymchwil feddygol GE Healthcare yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, ac awgrymodd y byddai'r cwmni yn elwa o ymdrechion y Ceidwadwyr i leihau "baich" rheoliadau cyflogaeth yr UE.
"Rydym wedi dechrau gwneud yn siŵr ein bod yn aildrafod darn wrth ddarn pan ddaw i ddeddfwriaeth, ac rydym eisoes wedi gosod yn eu lle y sylfeini ar gyfer y diwygio llawer mwy ac aildrafod a fydd, gobeithio, yn digwydd dros y cwpl o flynyddoedd nesaf," meddai wrth BBC Cymru.
"Y wers dwi wedi dysgu yw ei fod yn anodd iawn i gyfathrebu hynny ar garreg y drws, mae'n anodd iawn i esbonio i bobl pam mae'n rhaid i chi gael y diwygio ac aildrafod cyn refferendwm, yn hytrach na'r ffordd arall o gwmpas."
Dadleuodd Ms Swinburne, yr ASE Ceidwadol dros Gymru ers 2009, bod UKIP wedi "drysu pethau" drwy gynnig "neges syml iawn bod angen i refferendwm ddigwydd yn awr".
"Wrth gwrs, ni allant gyflawni hynny, rhaid iddo gael ei ddarparu o San Steffan, a'r unig blaid sy'n addo hynny yn San Steffan yw fy mhlaid fy hun, y Blaid Geidwadol".
'Gweithio'n galed'
Dywedodd Ms Swinburne fod ganddi un neges syml i bleidleiswyr: "Mae'n wir yn bwysig, cyhyd ag yr ydym yn rhan o Ewrop mae angen i ni ymgysylltu â hi.
"Mae angen i chi anfon ASEau sy'n gweithio'n galed ac sy'n barod i godi llais dros Gymru ac ymladd am yr hyn y maent yn credu ynddo, ac mewn gwirionedd yn mynd allan yno a gwneud y gwaith caled.
"Dyna beth yr wyf wedi ei wneud yn ystod y pum mlynedd diwethaf, a dyna a wnaf os caf fy ail-ethol ddydd Iau."
Wrth siarad yn gynharach, dywedodd bod "datblygiadau mewn technoleg feddygol" gan GE yn eu rhoi "yn yr haen uchaf o gwmnïau yng Nghymru sy'n arwain y byd o ran ymchwil ac arloesi".
Dywedodd Ms Swinburne bod angen i'r UE ddod yn fwy cystadleuol i "gefnogi busnesau, swyddi a thwf, nid gweithio yn eu herbyn gyda gor-reoleiddio a mesurau gwrth-gystadleuol".
"Mae ASEau Ceidwadol eisoes wedi arwain yr ymgyrch i leihau biwrocratiaeth yr UE ar gyfer cwmnïau bach" meddai.
"Bydd cwmnïau mwy o faint hefyd yn cael ein cefnogaeth hefyd wrth iddynt geisio masnachu gyda'r byd a chreu hyd yn oed mwy o swyddi yma. "
Mae rhestr o'r holl ymgeiswyr a phleidiau yng Nghymru sy'n sefyll yn etholiadau Senedd Ewrop ar ddydd Iau 22 Mai, ar gael yma
Straeon perthnasol
- 18 Ebrill 2014
- 25 Ebrill 2014