Mustang Marine: Gwerthu i gonsortiwm ac arbed 30 o swyddi
- Cyhoeddwyd

Er mwyn arbed 30 o swyddi yn Noc Penfro, mae gweinyddwyr wedi gwerthu rhannau o gwmni Mustang Marine i gonsortiwm.
Bydd y gweithwyr yn parhau i weithio ar nifer o brosiectau sy'n bodoli yn barod gan y cwmni - sy'n adeiladu ac atgyweirio cychod.
Mae'r gwaith yn cynnwys adeiladu tyrbin sy'n defnyddio'r llanw i greu egni oddi ar arfordir Sir Benfro. Dylai gael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.
Aeth y cwmni i mewn i ddwylo'r gweinyddwyr, cwmni Grant Thornton, ym mis Mawrth, gyda'r golled o dros 60 o swyddi.
Mae'r gweinyddwyr yn gobeithio byddan nhw'n gallu gwerthu doc sych Mustang Marine yn Aberdaugleddau gan arbed 10 o swyddi eraill.
Un o'r rhai sy'n rhan o'r consortiwm yw Stuart Graves, a gafodd ei yrru i'r cwmni fel prif weithredwr dros dro gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau.
Yn falch
Meddai Alistair Wardell, pennaeth Grant Thornton yng Nghymru: "Mae hyn yn newyddion da iawn ar gyfer y 30 o weithwyr medrus sydd wedi gweithio i'r cwmni drwy'r broses weinyddu.
"Bellach, mae eu swyddi yn ddiogel, ac mae'r perchnogion newydd yn hyderus bydd y busnes yn tyfu gyda'r nod o gyflogi mwy o weithwyr yn y dyfodol agos.
"Mae'r tîm gweinyddol yn parhau i siarad â rhai sydd â diddordeb i gymryd drosodd y cyfleuster doc sych yn Aberdaugleddau.
"Rydym yn obeithiol o ddod i gytundeb ar gyfer hynny yn ddiweddarach yr wythnos hon, ac fe fydd hynny sicrhau swyddi 10 o weithwyr eraill. "
Sefydlwyd Mustang Marine yn Abergwaun yn 1984 , cyn symud i Ddoc Penfro yn 1997.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2013
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2014