Dwyn o fistro Cameo: carchar i fenyw am 6 mis

  • Cyhoeddwyd
Alexia MyringFfynhonnell y llun, From Facebook
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Alexia Myring ei charcharu am chwe mis

Mae rheolwr wnaeth dwyllo a dwyn o fistro er mwyn cael byw bywyd moethus wedi ei charcharu.

Roedd gan Alexia Myring o Gaerdydd ddyledion gwerth £30,000 ac mi ddechreuodd hi ad-dalu ei cherdyn credyd ac un ei gŵr wrth weithio yn y Cameo ym Mhontcanna.

Mi wnaeth y ferch 29 oed feio dau o'i chyd-weithwyr gan eu gorfodi i adael eu swyddi.

Cafodd ei charcharu am chwe mis ar ol cyfaddef iddi ddwyn gwerth £6,146 o arian.

Clywodd llys y goron Caerdydd fod Mrs Myring wedi gadael bwyty The Potted Pig ar ôl dioddef o straen. Roedd hi yn un o'r perchnogion yno. Wedi hynny mi gynigiodd perchennog Cameo, Huw Davies swydd iddi fel rheolwraig am fod ganddi enw da.

Dechreuodd weithio yno ym mis Gorffennaf. Yn fuan ar ol hynny mi awgrymodd wrth Mr Davies y dylai o newid y til. "Ar ol iddi hi argymhell hyn mi gafodd system newydd tils ei rhoi yn ei le," meddai'r erlynydd, Tom Roberts. "Ond yn fuan wedi hynny mi ddechreuodd Huw Davies bryderu."

Beio eraill

Roedd na anghysondeb yn yr enillion ond wnaeth na neb amau Mrs Myring am iddi bwyntio'r bys ar ei chydweithwyr.

"Wythnosau ar ol iddi ddechrau gweithio mi ddechreuon ni bryderu nad oedd ein llif arian ni yn iawn," meddai Mr Davies. "Mi wnaeth Alexia dawelu ein meddyliau trwy ddweud bod ganddi'r arbenigedd i ddatrys hyn. Mi oedden ni yn ymddiried yn llwyr ynddi."

Ond ar ol i ddau aelod o staff adael, roedd arian dal ar goll.

"Awgrymodd Alex ein bod yn rhoi'r sac i'r tim cyfan ac yn dechrau o'r dechrau, " meddai Mr Davies.

Ond ar ol cyflogi cyfrifydd stoc broffesiynol daeth hi'n amlwg bod ad-daliadau wedi eu gwneud i gerdyn gŵr Mrs Myring. Rhwng Tachwedd ac Ionawr cafodd ad-daliadau eu gwneud i'w cherdyn hi. Cafodd ad-daliad arall o £400 ei wneud i gerdyn banc arall.

Ym mis Chwefror mi wnaeth hi ddwyn £210 oddi wrth un o gwsmeriaid Cameo gan ddweud wedyn bod y fenyw ddim wedi talu'r bil cyfan.

Dywedodd Adam Sharp oedd yn ei chynrychioli yn y llys ei bod hi yn "edifar ac yn cywilyddio" am yr hyn wnaeth hi.

Ond wrth ei dedfrydu dywedodd y barnwr fod Ms Myring wedi gweld y bistro fel "targed hawdd" a bod gweithwyr eraill wedi dioddef o achos yr hyn wnaeth hi.