Gareth Williams yn dal i gael ei dalu

Gareth Williams Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Cafodd Gareth Williams ei garcharu am bum mlynedd

Mae dirprwy brif athro oedd yn ffilmio plant yn gudd ac efo miloedd o luniau anweddus yn ei feddiant yn dal i dderbyn ei gyflog.

Cafodd Gareth Williams, 47 oed, ei garcharu am bum mlynedd ddydd Llun ar ol pledio yn euog i 31 cyhuddiad - gan gynnwys cyhuddiadau o voyeuriaeth ac o greu lluniau anweddus.

Mae cyngor Caerdydd sef cyflogwr Williams wedi dweud y gallan nhw "weithredu mewn ffordd briodol heb oedi" rwan am fod yr achos llys wedi dod i ben.

Y gred ydy ei fod yn ennill tua £65,000 y flwyddyn.

Straeon perthnasol