Dau olygydd papurau newydd Cymru yn gadael

  • Cyhoeddwyd
Media Wales
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r ddau olygydd yn gadael ym mis Gorffennaf

Mae dau olygydd sydd yn gweithio i bapurau newydd yng Nghymru yn gadael eu gwaith.

Bydd Tim Gordon sydd yn gweithio i bapur The South Wales Echo a Simon Farrington sydd yn gweithio i bapur Wales on Sunday yn gadael ym mis Gorffennaf.

Dywedodd pennaeth y cwmni Alan Edmunds y bydd y par yn mynd ar "drywydd mentrau busnes newydd".

Mae Mr Gordon wedi bod yn newyddiadurwr am 25 mlynedd ac yn y gorffennol fo oedd golygydd y Wales on Sunday. Roedd Mr Farrington yn olygydd ar gylchgronnau'r cwmni cyn dod yn olygydd y papur.

Mewn ebost dywedodd Mr Edmunds ei fod yn ddiolchgar am waith caled y ddau a'u cefnogaeth.

"Bydd Tim a Simon yn gadael ym mis Gorffennaf gyda'n dymuniadau gorau ac mi fyddaf yn cyhoeddi pwy fydd yn dod yn eu lle maes o law."

Dyw staff ddim yn disgwyl y bydd yna ddau olygydd uniongyrchol yn dod yn lle Mr Gordon a Mr Farrington.