Ble maen nhw nawr?
- Cyhoeddwyd

Llun: Geoff Charles (o gasgliad digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Help! Mae BBC Cymru Fyw yn awyddus i gael eich cymorth chi i adnabod aelodau'r parti buddugol hwn yn Eisteddfod yr Urdd y Bala yn 1954.
Yr unig beth yr ydym yn ei wybod am y llun yw ei fod wedi ei dynnu gan y ffotograffydd papur newydd Geoff Charles yn ystod y brifwyl ieuenctid 60 mlynedd yn ôl.
Mae'r llun yn rhan o gasgliad amrywiol a thrawiadol o luniau'r ffotograffydd nodedig sydd i'w gweld ar wefan flickr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ydy'r wynebau yn gyfarwydd? Be oedd y gystadleuaeth? Ydych chi yn y llun? Cysylltwch gyda ni ar cymrufyw@bbc.co.uk i ddweud yr hanes.