Ap newydd Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Logo Esiteddfod yr Urdd.Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Ap yr Urdd ymateb da ar y maes y llynedd

Bydd Ap newydd Eisteddfod yr Urdd yn caniatáu i ddefnyddiwyr rannu canlyniadau trwy Facebook a Twitter.

Cafodd yr Ap ei ddefnyddio gan 13,000 o bobl yn yr Eisteddfod llynedd, ac mae'r Urdd a'u partner S4C yn gobeithio cael ymateb tebyg os nad gwell eleni.

Bydd yr Ap yn cynnwys:

  • Amserlen a gweithgareddau
  • Calendr personol o weithgareddau
  • Map o'r Maes
  • Canlyniadau
  • Fideos o enillwyr
  • Rhagolwg tywydd

Cafodd yr Ap ei ariannu gan yr Urdd a S4C ac mae ar gael i'w lawrlwytho am ddim i ddefnyddwyr Android ac Apple.

Dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Rwy'n falch iawn fod gennym yr Ap fel adnodd i'r ymwelwyr ac i bobl fwynhau'r Eisteddfod ble bynnag y maent.

"Rydym yn gobeithio'n fawr bydd yr Ap yn adnodd i bawb gael ategu at eu mwynhad o'r Ŵyl yn y Bala."