Achos y Gleision: Dim rhybudd
- Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Abertawe fe glywodd y rheithgor fod rheolwr y lofa, Michael Fyfield, wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd arwyddion bod dŵr yn llifo trwy wal y pwll.
Dywedodd ei fod wedi profi'r wal ychydig ddyddiau cyn y drychineb ac roedd y glo yn sych. Roedd hyn yn awgrymu, meddai, nad oedd dŵr yn bresennol y tu ôl i'r wal. Roedd ychydig o ddŵr - llond cwpan - ond nid digon i ddangos fod dŵr yn cronni yno.
Mae Mr Fyfield, 58, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad.
Cafodd David Powell, 50, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, eu lladd wedi i hyd at 650,000 galwyn o ddŵr lifo i'r lofa.
Mae'r cwmni oedd yn berchen ar y safle, MNS Mining, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.
Clywodd y rheithgor fod Mr Fyfield wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd mapiau na chynlluniau'r pwll wedi cael eu diweddaru yn iawn.
Dywedodd ei fod wedi gwirio'r cynlluniau gyda Chyngor Castell Nedd Port Talbot. Doedd y mapiau ddim yn dangos fod yr ardal roedd yn gweithio ynddo yn ardal lle'r roedd angen gofal arbennig.
Yn ôl Mr Fyfield roedd y cynlluniau yn awgrymu fod gwaith wedi digwydd yno o'r blaen, a bod y perchnogion a'r awdurdodau cynllunio wedi rhoi caniatad iddo weithio yno.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 20 Mai 2014
- 20 Mai 2014
- 14 Mai 2014