Caerdydd yn arwyddo Guerra
- Cyhoeddwyd

Mae Caerdydd wedi arwyddo'r gŵr o Sbaen, Javi Guerra ar gytundeb tair blynedd.
Bydd yr ymosodwr 32 oed yn ymuno a gweddill tîm Ole Gunnar Solskjær ar Orffennaf 1 pan mae'r ffenestr drosglwyddo yn agor.
Fe sgoriodd Guerra 72 o goliau mewn 149 o ymddangosiadau i Real Valladolid, wedi iddo'i helpu nhw i gyrraedd La Liga yn 2010.
"Rwy'n ddiolchgar iawn am y croeso rwyf wedi ei gael yma yn Ninas Caerdydd ac yn edrych ymlaen am yr her newydd yng Nghymru," meddai.