Etholiad Ewrop: Diwrnod olaf o ymgyrchu
- Cyhoeddwyd

Mae'r pleidiau gwleidyddol yn cymryd y cyfle olaf i ymgyrchu cyn i'r blychau pleidleisio ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd agor ar ddydd Iau.
Mae yna 11 plaid yn brwydro am y pedair sedd Gymreig yn Senedd Ewrop.
Enillodd y Ceidwadwyr, Llafur, Plaid Cymru ag UKIP sedd yr un yn yr etholiadau diwethaf yn 2009.
Bydd y pleidleisio yn dechrau am 07:00 ac yn gorffen am 22:00 ar ddydd Iau, gyda'r cyfrif yn dechrau nos Sul.
Ceidwadwyr
Y Ceidwadwyr daeth i'r brig yng Nghymru'r tro diwethaf, ac mae prif ymgeisydd y blaid, Kay Swinburne, yn gobeithio bydd ei haddewid i ddiwygio'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn ddigon i gadw ei sedd.
Mae'r Torïaid yn dweud mai nhw yn unig blaid sydd yn ymrwymo i gynnal refferendwm ac yn medru anrhydeddu'r addewid hwnnw.
Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi addo i gynnal refferendwm 'mewn neu allan' ar yr UE yn 2017 os fyddan nhw'n ennill yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.
Cyfaddefodd Ms Swinburne fod polisi'r Torïaid o ail-drafod aelodaeth y Deyrnas Unedig yn yr UE cyn refferendwm yn anodd i gyfathrebu.
Etholiadau Ewropeaidd 2009 oedd y tro cyntaf i'r Blaid Lafur fethu a dod yn gyntaf mewn etholiad ar draws Cymru ers 1918.
Llafur
Mae Llafur yn dadlau mai nhw yw'r unig blaid sy'n cynnig er mwyn mynd i'r afael â'r "argyfwng costau byw".
Dyna'r neges wnaeth arweinydd Llafur Ed Miliband yn thanlinellu yn ei ddau ymweliad i Gymru yn ystod yr ymgyrch.
Mae prif ymgeisydd y blaid yng Nghymru Derek Vaughan wedi pwysleisio'r buddion i Gymru o aros yn rhan o'r UE, gan gynnwys "tua £1 biliwn o arian Ewropeaidd y flwyddyn".
Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru yn mynnu mai hi yw'r unig blaid sydd yn amddiffyn buddiannau Cymru yn Ewrop, ac am weld ymfudwyr medrus, fel doctoriaid a darlithwyr, yn cael eu hannog i symud i Gymru.
Mae'r blaid yn addo creu 50,000 o swyddi Cymreig a gwella cysylltiadau trafnidiaeth.
Dywedodd prif ymgeisydd Plaid Jill Evans bod yna "bethau sylweddol yn y fantol" yn yr etholiad yma, gan gynnwys 150,000 o swyddi Cymreig sydd yn dibynnu ar fasnach â'r UE.
UKIP
Roedd protestiadau yn Abertawe wedi arwain at benderfyniad arweinydd UKIP Nigel Farage i beidio ymgyrchu yng nghanol y ddinas oherwydd pryderon ynghylch diogelwch.
Er hynny, dywedodd Mr Farage fod ei blaid yn ac yn "cael ei dderbyn yn fwyfwy".
Galwodd Mr Farage ar bleidleiswyr i frwydro'n ôl yn erbyn "y pleidiau sefydliadol" sydd wedi "cael gwared ar ein gwlad, cael gwared ar reolaeth dros ein ffiniau ac wedi gwrthod llais i'r bobl ynghylch y penderfyniadau yna".
Mae UKIP yn gobeithio ennill sedd i'w prif ymgeisydd Nathan Gill drwy ymgyrchu am refferendwm ynghylch gadael yr UE.
Democratiaid Rhyddfrydol
Pwysleisiodd y Democratiaid Rhyddfrydol y budd i Gymru o fod yn rhan o'r UE, gan ddweud bod un swydd ymhob 10 yng Nghymru yn ddibynnol ar fasnach a'r UE.
Gobaith Alec Dauncey yw cael ei ethol fel Aelod Seneddol Ewropeaidd cyntaf y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
Dywedodd Mr Dauncey y byddai cynlluniau UKIP i dynnu allan o'r UE yn "drychinebus" i Gymru, tra bod safiad y pleidiau eraill ynghylch Ewrop yn aneglur.
Mae rhestr o'r holl ymgeiswyr a phleidiau yng Nghymru sy'n sefyll yn etholiadau Senedd Ewrop ar ddydd Iau 22 Mai, ar gael yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2014