Botwliaeth yn lladd gwartheg

  • Cyhoeddwyd
gwartheg

Mae'r awdurdodau yn ymchwilio i farwolaeth nifer o wartheg ar fferm yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl Asiantaeth lechyd Anifeiliaid maen nhw'n ymchwilio i ddigwyddiad botwliaeth ar fferm.

Y gred yw bod tua 70 o anifeiliaid wedi marw ar fferm Cwrt Malle, Llangynog.

Mae'r asiantaeth wedi cadarnhau fod y gwenwyn botwliaeth yn bresennol.

Credir mai tarddiad tebygol y botwliaeth oedd gweddillion anifail yn prydu, ac yn bresennol mewn silwair.

Dywedodd yr asiantaeth eu bod yn cael adroddiadau o tua 20 achos o fotwliaeth yn flynyddol.