120 o swyddi yn y fantol yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae 120 o swyddi yn y fantol ar ôl i gwmni trydanol gyhoeddi cynigion i ailstrwythuro.
Os bydd y cynnig yn mynd yn ei flaen, dywedodd Morgan Advanced Materials y gallai arwain at golli hyd at 120 o swyddi yn Abertawe.
Mae cyfnod o ymgynghori ar y gweill.
Ar hyn o bryd mae tua 220 yn cael eu cyflogi ar y safle ond gallai swyddi gael eu colli dros gyfnod o tua 18 mis.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r effaith ar weithwyr a allai gael eu heffeithio gan y cynnig hwn a byddwn yn ceisio osgoi diswyddiadau gorfodol lle bynnag y bo'n bosibl".