Rheolwr Gleision 'wedi cynnig helpu achubwyr'
- Cyhoeddwyd

Mae Llys y Goron Abertawe wedi clywed bod rheolwr glofa wedi cynnig helpu achubwyr i ddod o hyd i'w gyd-weithwyr yn dilyn trychineb glofa Gleision.
Fe lwyddodd Malcom Fyfield i lusgo ei hun o'r pwll, wedi i ffrwydrad oedd wedi ei drefnu achosi i 650,000 galwyn o ddŵr lifo i mewn.
Brynhawn dydd Mercher, fe glywodd y llys ei fod wedi cynnig dangos i'r achubwyr pa lwybr ddefnyddiodd o i ddianc - ond fe gafodd o'i stopio.
Mae Mr Fyfield a pherchnogion y lofa, MNS Mining Ltd, yn gwadu cyhuddiadau o ddynladdiad.
Bu farw Garry Jenkins, 39, Philip Hill, 44, David Powell, 50, a Charles Breslin, 62 pan lifodd dŵr i'r ardal lle'r oedden nhw'n gweithio, wedi ffrwydrad oedd wedi ei drefnu o flaen llaw.
Yn rhan o nodiadau o'i gyfweliadau gyda'r heddlu, fe ddywedodd Mr Fyfield wrth swyddogion ei fod o eisiau mynd yn ôl i lawr i'r pwll i helpu i ddod o hyd i'w gyfoedion.
Fe ddywedodd rheolwr y lofa bod diffoddwr tân wedi rhoi cymorth iddo ddianc o'r pwll.
"Fe ges i'n rhoi ar y llawr a 'nes i gynnig mynd yn ôl i lawr i ddangos sut dd'es i allan - falle' y bydden nhw [yr achubwyr] wedi gallu dangos yr un llwybr iddyn nhw [y glowyr] - ond fe ddywedodd y diffoddwr nad oeddwn i'n cael mynd i unman," meddai Mr Fyfield.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 21 Mai 2014
- 20 Mai 2014
- 20 Mai 2014