Llun Eisteddfod yr Urdd 1954: Tri bwlch ar ôl!
- Cyhoeddwyd

Mae rhagor o wybodaeth wedi dod i law BBC Cymru Fyw am y wynebau sydd yn y llun trawiadol hwn gafodd ei dynnu 60 mlynedd yn ôl yn Eisteddfod yr Urdd y Bala 1954, gan y ffotograffydd adnabyddus Geoff Charles.
Pan wnaethon ni ofyn i chi am help ar fore lansio BBC Cymru Fyw ar 22 Mai doeddem ni ddim yn gwybod unrhyw beth am y llun ar wahân i'r achlysur a phwy a'i dynnodd.
Mae'r llun yn rhan o gasgliad amrywiol a thrawiadol o luniau Geoff Charles sydd i'w gweld ar wefan flickr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn ystod rhaglen Bore Cothi ar Radio Cymru ar y bore Iau fe gysylltodd Nia Jones-Evans o'r Bala i ddweud ei bod hi'n adnabod nifer o'r wynebau. Eglurodd Nia mai aelodau o barti dawnsio gwerin buddugol Aelwyd Corwen oedden nhw.
Roedd Nia hefyd yn llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd 1954. Roedd hi'n aelod o barti Aelwyd Corwen a ddaeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth i barti dawnsio gwerin dan 12.
Dywedodd Nia mai Iris sydd ar y pen, merch y post yng Ngwyddelwern. Wrth ei hochr hi mae Ann Evans yr Union. Cyn dyddiau Ann, tloty yng Nghorwen oedd yr Union.
Pan gysylltodd Nia gyda ni yn wreiddiol doedd hi ddim yn gwybod pwy oedd y ferch nesaf yn y llun, ond mae hi wedi anfon e-bost arall atom ni. Meddai Nia:
"Y ferch nad oeddwn i yn medru ei henwi yn wreiddiol yw Jane Jones (Jini Cutter ar lafar, gan mai teiliwr oedd ei thad). Roeddwn i wedi dyfalu hefyd mai Gwyn Caxton oedd y bachgen tal yn y canol ond erbyn hyn dwi'n credu mai Wil Hitchmough, neu ei frawd, o Fetws Gwerful Goch ydi o."
Ers y sgwrs efo Nia, mae Gwynfryn Williams o Gorwen wedi cadarnhau mai Wil sydd yn y llun.
"Rydw i'n nabod Wil ers blynyddoedd. Mae o'n dal i fyw ym Metws Gwerful Goch."
Gwynfryn yw'r bachgen y gwelwn broffil ei ên a'i drwyn ar ochr dde'r llun. Mae e'n cael ei adnabod gan nifer o'i gyfeillion fel `Gwyn Bylb' gan ei fod am flynyddoedd wedi bod yn gweithio efo cwmni trydan Manweb.
Mae ganddo hefyd ddiddordeb mawr mewn motobeics. Cafodd Gwynfryn ei holi am y motobeics ar rifyn o raglen newyddion Y Dydd nôl yn y 70au. Mae o i'w weld ar wefan You Tube.
Yn ei sgwrs wreiddiol efo Shân Cothi a Kevin Davies (o dîm Cymru Fyw) dywedodd Nia Jones-Evans mai merch o'r enw Nora oedd nesaf yn y llun. Cadarnhaodd Gwynfryn mai Nora Evans oedd ei henw.
Doedd Nia na Gwynfryn ddim yn gallu cofio pwy oedd y llanc rhwng Jane a Nora yn y cefn. Ond roedd Nia yn nabod y bachgen nesaf.
"Gwilym Ceiriog ydi'r bachgen sy'n rhoi cusan i Gwenllian Berwyn. Fe briododd Gwilym ac Iris yn ddiweddarach. Roeddan ni fel plant bach yn giglan yn y corneli yn meddwl bod 'na gariadon yn y parti ei hun."
Dywedodd Gwynfryn mai Iris oedd yr unig un o'r merched oedd ddim yn dod o Gorwen.
Yn ddiweddarach roedd Gwilym Ceiriog Evans yn weinidog gyda'r Presbyteriaid ac am gyfnod yn y 70au roedd yn ohebydd i raglen foreol BBC Radio Cymru, Helo Bobol.
Roedd yr hyfforddwraig, Gwenllian Berwyn, yn amlwg iawn yn y cylchoedd dawnsio gwerin meddai Nia.
"Gwenllian Berwyn oedd yr athrawes ddawnsio gwerin yng Nghorwen. Roedd hi'n weithgar dros ben efo partïon dawnsio gwerin yn yr ardal. Hi sy'n dal y darian".
Doedd Nia ddim yn gwybod pwy oedd y bachgen arall sy'n cusanu'r athrawes na'r ferch nesaf yn y llun. Gaynor Hughes yw enw'r ferch ar y pen meddai hi.
Diolch i Nia a Gwynfryn am eu cymorth, ond mae ganddom ni dri bwlch ar ôl.
Fedrwch chi ein helpu ni i lenwi'r bylchau a chael rhagor o hanes aelodau'r parti? Cysylltwch gyda ni ar cymrufyw@bbc.co.uk i ddweud yr hanes.