Cwest ambiwlans: Rheithfarn naratif
- Cyhoeddwyd

Mae crwner wedi cyhoeddi rheithfarn naratif yn achos dyn fu farw ar ôl aros am dros bedair awr mewn ambiwlans gan nad oedd lle iddo yn yr ysbyty.
Cafodd Michael Bowen o Aberogwr ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont am 06:15 ar fore Ionawr 16.
Roedd Mr Bowen, cyn löwr, wedi bod yn cael anawsterau wrth anadlu ac wedi bod yn dioddef poenau yn ei stumog.
Cafodd ei gymryd i mewn i'r ysbyty am 10:45, ond yna roedd rhaid iddo ddychwelyd i'r ambiwlans gan nad oedd lle yn yr adran gofal brys.
Ychydig wedi 13:00 y prynhawn hwnnw, cafodd Mr Bowen ffit a bu farw toc cyn 14:00.
'Diffyg staff'
Bu'r crwner, Andrew Barkley yn ystyried os oedd cysylltiad rhwng yr oedi ac achos marwolaeth Mr Bowen.
Daeth i'r casgliad na wnaeth yr oedi achosi na chyfrannu at y farwolaeth yn ôl pob tebyg.
Dywedodd y patholegydd Dr Stephen Leadbetter bod post mortem yn dangos bod Mr Bowen wedi marw oherwydd thrombosis oedd wedi achosi rhwystr yn ei wythiennau.
Dywedodd bod hwn yn gysylltiedig â sirosis yr iau oherwydd alcohol.
Dywedodd nyrs oedd ar y ward, Deborah Lewis, ei bod hi wedi gweld yr adran yn llawn o'r blaen a bod hynny'n digwydd yn rhy aml.
Dywedodd hefyd bod diffyg staff yn gynnar y bore hwnnw, ac nad oedd y lefel llawn o staff yno tan 10:30 y bore hwnnw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2014