Chwilio am aelodau panel i gefnogi Comisiynydd y Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae llywodraeth Cymru yn annog pobl i wneud cais i fod yn aelodau o banel cynghori i gefnogi Comisiynydd y Gymraeg.
Bydd y Panel Cynghori yn "llywio'r Comisiynydd yn ei gwaith", gan roi cyfle iddi drafod materion, bydd yn rhoi cyngor ar ôl pwyso a mesur ac yn gweithredu fel 'ffrind beirniadol' pan fo angen.
Mae llywodraeth Cymru am gael ceisiadau o garfanau eang ac amrywiol. Nid yw'n hanfodol bod pob aelod o'r panel yn siarad Cymraeg.
Ymhlith cyfrifoldebau Comisiynydd y Gymraeg, mae:
- hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ymysg sefydliadau a busnesau;
- cynnal ymchwiliadau i honiadau o ymyrryd â rhyddid pobl i ddefnyddio'r Gymraeg;
- sicrhau y cydymffurfir â Safonau'r Gymraeg, a fydd yn creu mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg ledled Cymru.
Ymhlith sgiliau eraill, rhaid i'r aelodau fod â phrofiad o feddwl yn strategol a datblygu cyngor polisi cytbwys sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â gallu asesu amrywiaeth o safbwyntiau a buddiannau a dod i farn annibynnol.
Mae llywodraeth Cymru am benodi hyd at ddau aelod newydd i'r Panel Cynghori am gyfnod o dair blynedd.
'Cwbl hurt'
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemio'r cyhoeddiad nad oes raid siarad Cymraeg i fod ar y panel.
Fe ddywedodd Robin Farrar, cadeirydd Cymdeithas; "Os mai nod y panel yma yw hyrwyddo'r Gymraeg, dylai ddangos arweiniad trwy weithio yn Gymraeg.
"I wneud eu gwaith yn iawn, rhaid i aelodau'r panel yma ddeall profiad pobl sy'n ceisio byw yn Gymraeg o ddydd i ddydd.
"Mae'n gwbl hurt nad yw Llywodraeth Cymru yn ystyried y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer rôl o'r fath."
Straeon perthnasol
- 24 Chwefror 2014
- 5 Awst 2013