Diabetes: gormod o gamgymeriadau gyda chyffuriau

  • Cyhoeddwyd
Doris Tidewell
Disgrifiad o’r llun,
Mae Doris Tidewell yn dweud bod y staff meddygol wedi rhoi'r inswlin anghywir i'w gŵr

Mae angen i ofal ysbyty i gleifion â diabetes yng Nghymru wella ar frys.

Dyna'r alwad gan Diabetes UK Cymru ar ôl i ffigyrau archwiliad cenedlaethol ddangos bod staff yn ysbytai cyffredinol Cymru wedi gwneud camgymeriadau gyda meddyginiaethau dros draean o gleifion diabetes ym mis Medi'r llynedd.

Yn ôl yr elusen mae'r camgymeriadau'n gallu arwain at broblemau difrifol i gleifion.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dweud eu bod am wneud newidiadau.

Insiwlin anghywir

Tra'n cael triniaeth yn Ysbyty Penrose Stanley, Ynys Môn, ym mis Rhagfyr y llynedd, cafodd Peter Tidewell y math anghywir o insiwlin.

Meddai ei weddw Doris Tidewell: "Pan aeth o i Penrose Stanley roedd y nyrs heb di cael amser i sbio ar ei records o. A nath hi jyst mynd i'r fridge a jyst cymryd unrhyw inswlin allan o'r fridge.

"Ar y pryd o'n i'm yn gwybod pa inswlin oedd hi'n rhoi iddo fo a nath y nyrsys eraill i gyd follow suit... ac nath hynny digwydd am yn hir...

"A matron nath ffonio fi adre i ddeud am y mistake ac oedd hi yn lloerig ac yn lloerig ofnadwy... A deud maen nhw'n mynd i cael lessons am hyn."

Dim eithriad

Mae bwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cydnabod bod yna gamgymeriadau wedi eu gwneud wrth ofalu am Mr Tidewell ym mis Rhagfyr 2013 ac yn dweud ei bod yn flin iawn am hynny. Maen nhw'n ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd.

Yn ôl archwiliad cenedlaethol o'r gofal i gleifion a diabetes yn ysbytai Cymru - dyw'r achos ddim yn eithriad.

Dros gyfnod o bum niwrnod ym mis Medi'r llynedd, profodd dros draean o'r cleifion â diabetes gamgymeriadau gyda'u meddyginiaethau neu bresgripsiwn ar gyfartaledd.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,
Yn ôl Ffion Lewis dyw'r gofal mewn ysbytai ar gyfer cleifion gyda diabetes ddim yn gyson

Mae Ffion Lewis o elusen Diabetes UK Cymru yn dweud bod rhaid delio gyda'r mater ar frys.

"Ma na rai ysbytai, tua chwarter, sy di cyflwyno rhaglen o'r enw Think Glucose, a ma hwnna wedi lleihau nifer y camgymeriadau. Felly ma na ffyrdd o fynd i'r afael a hyn ma jyst isie neud siwr bod pob ysbyty'n Cymru'n rhan."

Ddwy flynedd yn ôl dywedodd y corff sy'n archwilio ysbytai Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, eu bod wedi gwneud addewidion ynglyn a gwella gofal ysbyty i gleifion a diabetes.

Angen gweithredu

Roedd y corff yn ymateb i achos David Joseph, fu farw'n dilyn camgymeriadau gan staff yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth wrth drin ei ddiabetes.

Ers hynny mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyflwyno'r system hyfforddi Think Glucose ar gyfer eu staff.

Ond mae un o ferched David Joseph wedi dweud nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cadw at eu haddewidion a bod gormod o wendidau'n dal i fodoli.

Meddai Ffion Lewis: "Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi addo newid y ffordd maen nhw'n arolygu ysbytai.

"Da ni'n gobeithio bydd hwn yn digwydd nawr yn gyflym, a by' ni'n gallu gweld unrhyw ysbyty sy' angen mwy o gymorth a gweithio ar hyn yn gyflym, fel ein bod ni'n medru osgoi y math yma o broblem yn y dyfodol."

Mewn datganiad mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru'n cydnabod nad yw'r broses o newid eu system arolygu ar gyfer gofal diabetes wedi digwydd mor gyflym a fydden nhw wedi dymuno.

Ond maen nhw'n mynnu eu bod yn gweithio'n galed i wneud newidiadau ac yn bwriadu rhannu'r manylion ag elusen Diabetes UK Cymru a theulu David Joseph.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol