Etholiad Ewrop: Cau gorsafoedd pleidleisio yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae pedair sedd Gymreig yn Senedd Ewrop
Mae'r gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiad Ewrop wedi cau.
Mae yna 11 plaid yn brwydro am y pedair sedd Gymreig yn Senedd Ewrop.
Roedd y gorsafoedd yn cau am 10 yh nos Iau.
Does dim modd cyhoeddi'r canlyniad tan ar ôl 9yh ddydd Sul, Mai 25, gan fod pleidleisio'n digwydd ddydd Sul mewn nifer o wledydd Ewropeaidd eraill.
Mae modd gweld rhestr o'r holl ymgeiswyr a phleidiau yng Nghymru sy'n sefyll yn etholiadau Senedd Ewrop yma.
Bydd modd gwybod y canlyniadau yng Nghymru wrth ddilyn y llif byw nos Sul.