Wythnos y We: 19-23 Mai
- Cyhoeddwyd
Bob dydd Gwener bydd BBC Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar rai o'r straeon a digwyddiadau gafodd sylw ar y llif byw yn ystod yr wythnos.
Cofiwch ychwanegu bbc.co.uk/cymrufyw at eich ffefrynnau (bookmarks) ar eich cyfrifiadur, dabled neu ffôn symudol.
Dydd Llun, 19 Mai
Bu 24 o bobl ifanc Meirionnydd yn perfformio Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru fore ddydd Llun. Cynhaliwyd y perfformiad arbennig, sydd wedi ei seilio ar thema rhyfel a chymodi, yn yr Ysgwrn, hen gartref Hedd Wyn. Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn 92 mlwydd oed, a'i nod yw i ysgogi ac ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol yr Urdd.
Dydd Mawrth, 20 Mai
Roedd sioe flodau fawr Chelsea yn cael ei chynnal yr wythnos hon ac i'r ardd yr aeth S4C nos Fawrth.
Mae'r cynllunydd blodau Sioned Edwards a'i theulu wedi gwireddu breuddwyd, ail-greu gardd ar hen fferm ei nain a'i thaid wrth droed Moel Famau, Dyffryn Clwyd, yn y gyfres deledu Gardd Pont y Tŵr.
Ar wefan Caban S4C mae Sioned yn sôn am ei theimladau ar ddiwedd blwyddyn anodd o adfywio'r ardd. "Mae'n deimlad arbennig i weld gardd Nain a Thaid yn blaguro eto. Roedden ni isio achub yr ardd i Nanw a Malan."
Dydd Mercher, 21 Mai
Yn ôl gwefan Golwg 360, mae ffilm ysbïo 'Kingsman: The Secret Service' yn cael ei rhyddhau ym mis Hydref gyda Chymro ifanc yn chwarae un o'r brif rhannau. Bydd Taron Egerton, yn wreiddiol o Aberystwyth ond bellach yn byw yn Llundain, yn serennu gyda Colin Firth, Samuel L Jackson a Michael Caine. Mae Taron eisoes wedi actio yng nghyfres Sky1 'The Smoke' a'r ddrama dditectif 'Lewis' ar ITV.
Dydd Iau, 22 Mai
Cafodd lein-yp gigs maes ieuenctid Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn Llanelli ei gyhoeddi ar C2 BBC Radio Cymru yr wythnos hon. Sŵnami ac Endaf Gremlin yw'r prif fandiau ar y nos Sadwrn yn Maes B. Yr Ods fydd y prif fand ar noson gyntaf gigs y maes ieuenctid ar y nos Fercher.
Fe gewch chi'r rhestr lawn ar wefan Maes B.
Dydd Gwener, 23 Mai
Wyddoch chi fod yna gystadleuaeth golff yn cael ei chynnal yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol? Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn flynyddol ers bron i dri degawd. Cewch chi ragor o fanylion am y digwyddiad yng Nghlwb Golff a Hamdden, Machynys ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol.