BBC Cymru Fyw

Dim ond gofyn

Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC

Published

Yn ôl ym mis Chwefror ysgrifennais bost bach yn darogan fy mod i'n ei chael hi'n anodd dychmygu sefyllfa lle na fyddai Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru ac Ukip yn ennill un sedd yr un yng Nghymru yn etholiad Ewrop.

Yn fuan wedyn dechreuodd arolygon barn ymddangos yn awgrymu y gallai Llafur ennill dwy neu hyd yn oed tair o'r pedair sedd. Am gyfnod roeddwn i'n teimlo'n unig braidd wrth awgrymu mai un yr un fyddai hi.

Erbyn hyn rwy'n teimlo'n gysurus iawn ynghylch fy narogan. Mae'n bosib fy mod yn anghywir. Mae hynny wedi digwydd droeon. Fe gawn weld nos Sul ond un peth sy'n sicr yn barod - roedd 'na broblem sylfaenol gydag arolygon barn ynghylch yr etholiad yma.

Er mwyn gallu darogan canlyniad etholiad yn gywir dyw hi ddim yn ddigon mesur safbwyntiau sampl cynrychiadol o'r etholwyr. Mae angen canfod hefyd pwy yn union sy'n debyg o bleidleisio. Yn arolwg Cymreig diwethaf YouGov, er enghraifft, roedd y Torïaid yn drydydd ymhlith y sampl gyfan ond Plaid Cymru yn drydydd ymhlith y rheiny oedd yn sicr o bleidleisio. Dyw gwahaniaeth o'r fath ddim yn anarferol.

Dyma'r broblem i chi. O'r 1,002 o bobl a holwyd gan YouGov dywedodd 635 eu bod yn gwbl sicr o bleidleisio - dros drigain y cant o'r sampl. Rydym yn gwybod yn barod bod y canran wnaeth bleidleisio oddeutu hanner hynny.

Oedd pobl yn dweud celwydd wrth YouGov felly? Dim o reidrwydd. Mae methodoleg YouGov yn seiliedig ar holi panel o bobol trwy'r rhyngrwyd. Mae'r rheiny yn bobl sydd wedi gwirfoddoli i lenwi holiaduron. Mae'n ddigon posib bod pobl felly yn fwy tebygol o bleidleisio na thrwch yr etholwyr ond yn yr achos hwn oni yw hynny yn gadael marc cwestiwn dros y canlyniadau?