Damwain: gyrrwr wedi marw ger Dolgellau
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr wedi marw oherwydd gwrthdrawiad rhwng car a lori sbwriel ger Dolgellau amser cinio.
Roedd y gwrthdrawiad wrth gyffordd yr A470 a'r A494 ac am 12.43pm rhoddodd y gwasanaeth ambiwlans wybod i'r heddlu.
Cyhoeddwyd bod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle. Aed â'r fenyw oedd yn y car i'r ysbyty mewn hofrennydd.
Aed â gyrrwr y lori i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101, gan ddyfynnu R076330, neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.
Mae'r A470 ar gau am gyfnod.