Sioe awyr Llandudno i godi arian i elusennau lluoedd arfog
- Cyhoeddwyd

Bydd awyrennau o'r ail ryfel byd yn hedfan uwchben Llandudno er mwyn codi arian i nifer o elusennau'r lluoedd arfog.
Yr uchafbwyntiau fydd ymweliad gan awyrennau Spitfire, Hurricane a Lancaster ac arddangosfa erobatig The Blades, tim o gyn beilotiaid y Llu Awyr Brenhinol.
Yn ogystal bydd arddangosfa gan dîm parasiwt yr RAF.
Dywedodd Edward Hiller, rheolwr gyfarwyddwr y sioe: "Mae'n rhaglen wych ac mae llawer o adloniant ar y promenâd.
"Ni'n yn awyddus i ddathlu a chefnogi Blind Veterans UK, sydd wedi symud i mewn i'r dref, a hefyd elusennau eraill y lluoedd, sydd yn achosion teilwng iawn."
Bydd grwpiau cerddorol fel Côr Meibion Maelgwn a Band Tref Llandudno yn perfformio yn ystod y prynhawn.
Bydd y sioe yn cychwyn am hanner dydd gyda'r arddangosfa awyr olaf yn dechrau am 15:45.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd2 Mai 2013