Cytundeb i brynu ffatri gan ddiogelu swyddi yn Y Fflint
- Cyhoeddwyd

Mae dros 140 o swyddi wedi cael eu diogelu yn Y Fflint wedi i gwmni prydau parod, Creative Foods, ddod i gytundeb gyda David Wood Bakers i werthu'r safle.
Unwaith bydd y gwerthiant yn cael ei gadarnhau, bydd 142 o weithwyr Creative Foods sy'n rhan o gwmni Brakes Group, yn cael eu trosglwyddo i weithio i David Woods Baking.
Yn awr bydd gweithwyr Creative Foods yn mynd i mewn i gyfnod o ymgynghori swyddogol, Diogelu Cyflogaeth wrth Drosglwyddo Cyfrifoldebau (TUPE) i newid cyflogwyr.
'Newyddion gwych'
Meddai Ranald Forbes, cyfarwyddwr rhanbarthol Brakes : "Mae hyn yn amlwg yn newyddion gwych ar gyfer ein gweithwyr ac rydym yn hynod falch ein bod wedi gallu dod o hyd i brynwr addas a fydd yn cadw'r ffatri.
"Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd ac ansefydlog iawn i'n cydweithwyr yn Y Fflint, ond hoffem ddiolch iddynt am y ffordd y maent wedi parhau i ddangos eu hymroddiad yn ystod y broses ymgynghori.
"Rydym yn edrych ymlaen at ddod â hyn i ben yn llwyddiannus ym mis Mehefin. "
Meddai David Wood, rheolwr gyfarwyddwr David Wood Baking: "Rydym yn falch iawn ein bod yn prynu Creative Foods.
"Rwyf yn gobeithio sicrhau dyfodol tymor hir y ffatri, gan weithio gyda chwsmeriaid a gweithwyr yn ogystal â Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint i sicrhau bod hyn yn digwydd."
'Ymdrech'
Meddai AS Delyn, David Hanson: "Mae hyn yn ganlyniad o ymdrech fawr gan nifer o bobl i gyrraedd y cytundeb. Rwy'n gobeithio yn awr y gall y busnes yn mynd o nerth i nerth. "
Ychwanegodd cynghorydd Aaron Shotton, arweinydd Cyngor Sir Y Fflint: "Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y trafodaethau yn cael eu dwyn i ben yn llwyddiannus."
Straeon perthnasol
- 1 Ebrill 2014